Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r safle hwn weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dewisol fel y gallwn ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio a'i wella. Ni fyddwn yn gosod cwcis dewisol oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy'r ddolen Gosodiadau cwcis ar waelod y dudalen.
Cwcis hanfodol
Mae angen y cwcis hyn er mwyn i'r safle weithio. Maent yn storio eich dewisiadau cwcis ac yn cadw eich sesiwn yn ddiogel. Maent wedi'u heithrio rhag caniatâd o dan Reoliad 6(4) PECR oherwydd eu bod yn hanfodol i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.
Cwcis dewisol
Mae cwcis dewisol yn ein helpu i ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio ac yn darparu nodweddion ychwanegol megis dadansoddeg, offer hygyrchedd a chyfieithu. Dim ond os ydych chi'n eu derbyn y byddwn yn eu gosod.
Fy Iechyd Ar-lein
Oni fyddai’n beth da pe gallech archebu eich meddyginiaeth reolaidd yn uniongyrchol o gysur eich cartref eich hun?
Os felly, dyma i chi newyddion da! Gallwch nawr ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein i archebu eich meddyginiaeth reolaidd, a threfnu, newid neu ganslo apwyntiadau gyda’ch meddyg teulu neu nyrs.
Bydd angen i chi gofrestru yn y practis i gael mynediad ar-lein i Fy Iechyd Ar-lein. Gofynnwch am becyn cais trwy ein ffurflen ddiogel ar-lein a’i e-bostio yn ôl i’r practis. Fel rhan o’r broses gofrestru gofynnir i chi brofi pwy ydych. Mae hwn yn un o’r mesurau sydd ar waith i ddiogelu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae manylion llawn am y broses ar gael o’r dderbynfa.
Rydym yn darparu’r wefan hon mewn cydweithrediad â GIG Cymru a’n cyflenwyr systemau TG meddygon teulu.
Gwasanaethau sydd Ar Gael i Gleifion
Mae’r Gwasanaethau canlynol ar gael i bob claf cofrestredig.